Pridd. Theatr Genedlaethol Cymru.

Image

 

Drama finiog a grymus yw cynyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol. Drama un dyn yw Pridd, yn dilyn bywyd trasig Handi-Al, y clown, a bortreadir gan Owen Arwyn dan gyfarwyddid yr actores – gyfarwyddwraig Sara Lloyd.

 Mae’r set, o law Ruth Hall, yn un drawiadol iawn. Ystafell fyw sydd wedi gweld dyddiau gwell yw hi gyda’r soffa a’r chest of drawers yn cwympo i ddarnau ac yn suddo i mewn i’r carpet sydd yn fudreddi i gyd. Ceir hefyd lamp yn disgyn o’r nenfwd sydd yn olau neu’n leuad pan fo angen. Set syml ond sy’n darlunio llawer i ni fel cynulleidfa. Cawn y syniad o’r cychwyn oll, cyn i’r perfformiad gychwyn, mae rhywun sydd a’i fywyd ar chwâl yw perchennog yr ystafell fyw, a chawn ymdeimlad o anesmwythdra wrth asesu’r darlun o’n blaenau.

 Cawn ddefnydd effeithiol o sain drwy gydol y perfformiad hefyd, a hynny dan gyfarwyddyd Dyfan Jones – yn emynau, caneuon serch neu dorf yn chwerthin – i gyd yn ychwanegu at anesmwythdra’r dorf a’r ymdeimlad o ddieithriad a gawn.

 Mae perfformiad Owen Arwyn yn un gampus. Nid ar chwarae bach y mae dyn yn cario drama awr o hyd ar ben ei hun. Yn gorfforol ac yn lleisiol cawn berfformiad meistrolgar. Yn yr eiliadau tyner rhwng Handi-Al a’i wraig wrth ddawnsio, y comedi rhwng ef a Tudur (Owen?!) a’r clownio mud, mae Owen Arwyn yn profi ei fod yn actor gwych.

 Mae’r sgript yn wledd i’r glust – beth arall sydd i’w ddisgwyl gan y dramodydd? Mae’r ffordd y mae’n chwarae ar eiriau ac yn cyfuno’r llon a’r lleddf yn naturiol yn hyfryd. Braf buasai wedi cael rhagor o dawelwch a seibiau i werthfawrogi hynny. Cyffyrddir â themâu mawr fywyd – bywyd, marwolaeth, cariad, ffyddlondeb, realaeth a dyfodol y Gymraeg.

 Ond er i mi fwynhau’r ddrama yn fawr, rhaid codi’r cwestiwn, a yw drama fel hon yn denu ac yn datblygu gynulleidfaoedd newydd i’r theatr? Er bod y scriptio a’r actor i’w canmol, ai hen ystrydeb ailadroddus yw hen alci o glown yn tynnu ei fwgwd gan edrych yn ôl ar ei fywyd cyn gael ei gladdu yng nghanol y pridd?

 Rhywbeth i gnoi cil arno, efallai.

Advertisements
Posted in Uncategorized | Leave a comment

Trwy’r Ddinas Hon. Sherman Cymru

Trwy'r ddinas hon

Yn ôl yn 1979, wrth drafod celfyddyd a ysbrydolwyd gan balmenti concrid y ddinas ysgrifennodd Gwyn Erfyl, taw’r ofn ynghylch unrhyw gelfyddyd a ysbrydolwyd gan y ddinas oedd yr ‘ofn o golli dirgelwch a rhyfeddod ac unigrywiaeth’. Concrid ydi concrid, meddai ef. ‘Dydi o ddim yn gallu’i adnewyddi ei hunan. Mae’n farw.’

Yn sicr, nid oes angen imi bwysleisio yn y fan hon esblygiad a thwf celfyddyd ddinesig ers troad y ganrif, ond rhaid imi bwysleisio mai’r hyn a gafwyd yn y tair drama a berfformiwyd yr wythnos diwethaf yng nghynhyrchiad y Sherman o Trwy’r Ddinas Hon oedd tair drama lawn ‘dirgelwch a rhyfeddod ac unigrywiaeth’ a ysbrydolwyd gan ddinas Gaerdydd.

Ond er mai Caerdydd oedd y ddolen gyswllt rhwng y tair drama fer a berfformiwyd, ymdrinnir â chyfnodau a sefyllfaoedd gwahanol iawn i’w gilydd ynddynt, ond yn gefnlen iddynt oll oedd pwysigrwydd lleoliad a lle.

Drama gyntaf y noson, a leolir yn y dyfodol agos, oedd Traed Bach Concrit gan Marged Parry. Mae ‘rhyfel heddwch’ ar fin gychwyn a Fflur (Hanna Jarman) a Lowri (Siw Huws) ymhlith rhai o’r bobl ffodus sydd wedi eu ‘dewis’ i oroesi’r ailstrwythuro ac i fod yn rhan o’r byd newydd lle bu dyfodol Cymru yn well ac yn gryfach na’i phresennol.

Yn ail ddrama’r noson, Myfanwy yn y Moorlands gan Sharon Morgan, ceir bod y ffin rhwng realiti a breuddwydion ac atgofion yn denau iawn wrth i Myfanwy (Siw Hughes) menyw ganol, oed ailymweld â dinas Caerdydd am y tro cyntaf ers dechrau’r saithdegau a chwrdd â bachgen ifanc (Tom Eames) y tybir oedd ei chariad pan oedd yn iau.

Erbyn y drydedd ddrama adleolir yng Nghaerdydd 1958.Ond golwg go wahanol ar y gorffennol a geir yn Llwch o’r Pileri gan Dyfed Edwards oherwydd mae’r Natsïaid wedi trechu a Chymru newydd ennill Cwpan y Byd. Mae Llio (Hanna Jarman) a Prys (Tom Eames) dau ddisgybl ysgol wedi’u trwytho yng nghredoau ac athrawiaeth y Natsïaid, a wynebant gyfyng-gyngor wrth i’w hathrawes Miss Brumann (Siw Hughes) ceisio eu hargyhoeddi fod bywyd gwell yn aros iddynt y tu hwnt i giatiau’r ysgol.

Cafwyd perfformiadau da iawn gan y cast cyfan (er mai perfformiad Hanna Jarman fel y ferch ddiniwed, chwilfrydig yn Llwch o’r Pileri oedd y gorau yn fy nhyb i), a bu’r newidiadau effeithiol yn y set a’r goleuo yn sicrhau bod y tair drama yn cael eu cyflwyno yn annibynnol oddi wrth ei gilydd ac yn fodd o sicrhau ni ellir eu cymharu’n rhwydd.

Er hyn, ychydig yn siomedig oedd clywed yr un hen ystrydebau am ddiwylliant dinesig a diwylliant gwledig yn Myfanwy yn y Moorlands. Teimlaf ei bod hi’n hen bryd i’r gwrthdaro a’r hollt a bortreadwyd rhwng y ddau ddiwylliant gael mynegiant newydd, a siomedig ar un olwg oedd gweld yr un ystrydebau yn codi ei phen unwaith yn rhagor gan achosi imi golli diddordeb yn y ddrama ar adegau.

Codi sawl cwestiwn ynghylch brad, gelynion, heddwch, rhyfel, realiti a hunllef wnaeth Trwy’r Ddinas Hon gan sicrhau noson amrywiol a dirdynnol oedd yn bendant werth ei fynychu!

 (Gwelir sylwadau Gwyn Erfyl ac eraill yn Rhifynau 201/ 203/4 a 205 Barn)

Posted in Uncategorized | Tagged | 1 Comment

Tir Sir Gâr.

 Image

Ysbrydolwyd perfformiad promenâd diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, a gychwynnodd gyda phaned o de a bara brith yn Neuadd San Pedr Caerfyrddin cyn ein tywys i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ar gyrion Abergwili, gan gyfweliadau a gafwyd â  ffermwyr Gorllewin Cymru.

Archwilio i’r argyfwng a’r problemau a wynebai’r gymuned ffermio yn ddyddiol yn yr oes sydd ohoni y mae’r perfformiad, a hynny thrwy’r defnydd o ffilm, cerddoriaeth, a deialog.


Wrth gyrraedd yr Amgueddfa cawn ein cyflwyno i deulu Pencerrig a wynebai argyfwng personol; mae pen y teulu, Bryn, wedi marw’n sydyn a dyfodol y ffarm, felly, mor ansicr â dyfodol yr amgueddfa ble cynhelir y perfformiad. Pwy fydd etifedd y ffarm? Mae Celyn yn byw yn Llundain, Arwel yn gwneud ei orau glas i ofalu dros ei deulu, mae Luned yn ddigon hapus yn ei swydd yn yr archfarchnad leol, a Non, y ferch ieuangaf, yr unig un mewn gwirionedd, a’r gallu ac ychydig o awydd i barhau â’r gwaith, yn awyddus i deithio’r byd â Chloe Brown cyn cael ei chlymu i’r tir.

Yn wir, dyna hanfod y ddrama – ymlyniad dyn â’r tir y mae’n byw arni.

Yr oedd perfformiad y cast cyfan yn ysgytwol, ond imi roedd perfformiadau Arwel (Siôn Ifan) a Celyn (Gwydion Rhys) yn fendigedig. Roedd y cyferbyniad rhwng y ddau gymeriad a’r modd y clymwyd y ddau mewn cariad a chyfrifoldeb at y tir a’u teulu yn hynod o drawiadol ac effeithiol. Heb os, bu’r olygfa rhwng y ddau wrth iddynt ddadlau dros ddyfodol y ffarm yn uchafbwynt ysgubol a ddaeth a deigryn i’r llygad. 


Yn wir, amhosib bron yw crynhoi yn deilwng yr hyn a brofwyd yn ystod perfformiad Tir Sir Gâr. I mi, yn ogystal â phrofi darn o theatr wreiddiol, llawn dychymyg a heriol y noson honno, cefais flas realistig ar ffordd o fyw dwi mor anghyfarwydd â hi.

Mawl a marwnad yn un sy’n llwyddo i gyfleu’r llafur a’r gorfoledd sy’n rhan annatod o ffordd o fyw arbennig yw Tir Sir Gâr. Heb os, profiad theatrig pryfoclyd a difyr arall gan y Theatr Genedlaethol.

 

 

Posted in Uncategorized | 1 Comment

DE GABAY. National Theatre Wales

Un o gymunedau amlhiliol, amlieithyddol ac aml grefyddol cyntaf Prydain yw Tiger Bay, ac adrodd hanes un o grwpiau lleiafrifol yr ardal arbennig hon o’r brifddinas; y Somaliad, oedd amcan cynhyrchiad National Theatre Wales, De Gabay. Yn Butetown ceir y gymuned fwyaf o Somaliad yn byw y tu allan i Somalia, a dathlu eu hanes, eu beirdd ifainc, eu doniau a’u cymuned oedd yr amcan. Yn wir, cychwynnodd y gwaith yn y gymdogaeth ddwy flynedd yn ôl a chynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau a gweithdai dros y cyfnod hwn, a gweithredu fel uchafbwynt i hyn oll oedd bwriad y cynhyrchiad a berfformiwyd ar ddechrau mis Mawrth.

Ar ddechrau’r diwrnod cawsom ein hanfon i dai a chanolfannau gwahanol o amgylch Butetown. Yn ffodus, es i i Ganolfan B.E.A.T i wrando ar Betty Campbell, cyn prifathrawes Mount Stuart Primary School yn adrodd hanesion am ei bywyd a’i magwraeth yn yr ardal. Yn wir, oherwydd ei pharatoadau manwl a’r llu o luniau o amgylch yr ystafell, cefais flas ar yr agosatrwydd a’r ymdeimlad o gymdogaeth a charedigrwydd a brofwyd ganddi pan oedd yn ifainc. Disgrifiodd yn huawdl yr awyrgylch byrlymus a geir cynt yn yr ardal, yn ogystal â’r profiadau negyddol a brofodd y tu allan i gymdogaeth glòs Butetown am ei bod hi’n fenyw ddu uchelgeisiol, benderfynol yn ystod pedwardegau’r ganrif ddiwethaf.

photo-8

Ar ôl cychwyniad gwych i’r diwrnod, rhaid cyfaddef, nad oedd gweddill y diwrnod cystal. Yn ystod y dydd cafwyd dwy orymdaith hir trwy strydoedd Butetown, un yn cynrychioli’r gorffennol ac yn dilyn taith y Somaliad o’u gwlad i ardal y dociau yn ystod y 19ganrif, a’r llall yn cynrychioli’r presennol a’r diwylliant a fodolai yn awr wrth i bobl ifainc delio â’u hunaniaeth ddeuol. Cwrdd y tu allan i adeilad y Coal Exchange a wnaeth y ddwy orymdaith i wylio stori garu rhwng ddau gymeriad, un o’r gorffennol a’r llall y presennol, cyn cyrraedd pen y daith yn y Senedd. Yno, cafwyd dadl rhwng trigolion yr ardal a gwleidyddion y Senedd, a lleisiwyd y dicter a’r anghyfiawnder y teimla’r Somaliaid heddiw ar ffurf barddoniaeth grefftus hip-hop.

photo-11 photo-9

photo-10

Heb os, llwyddodd y cynhyrchiad, wrth ymdrin â phynciau megis hunaniaeth a pherthyn, cyflawni un o swyddogaethau pwysicaf theatr; sef trafod problemau a phynciau sy’n effeithio ar y gymdeithas a cheisio eu datrys.

Er hyn, roedd hi’n gynhyrchiad hir a di-drefn ac oherwydd diffyg naratif cryf i’w chynnal, rhaid dweud imi ddechrau colli diddordeb erbyn y diwedd. Yn wir, yr hyn sy’n aros yn y cof yn bennaf yw’r sgwrs â Betty Campbell a heb os, byddai’r cynhyrchiad cyfan ar ei hennill petai mwy o gyfle i wrando ar hanesion personol tebyg. Y trueni mwyaf, yw er yr holl waith a wnaed yn y gymdeithas, ac er y mwynhad amlwg oedd ar wynebau’r rhai oedd ynghlwm â’r cynhyrchiad, roedd hi’n ddigon hawdd gadael y Bae y diwrnod hwnnw, heb wir dysgu ryw lawer am hanes a diwylliant y Somaliad yn Butetown.

‘We lost our heritage for an outdoor toilet and bathroom’, dywedodd Betty Campbell, a siom mwyaf De Gabay oedd na fu’n cyfleu’n effeithiol bwrlwm ac unigoliaeth yr hunaniaeth a threftadaeth hwnnw i’r gynulleidfa. 

Posted in Theatr/ Theatre, Uncategorized | Tagged | Leave a comment

Dyled Eileen. Theatr Genedlaethol Cymru

dyled-eileen

Mae enw Eileen Beasley, heb os, yn un adnabyddus ymysg y Cymry Cymraeg, a hynny, yn bennaf, oherwydd ei hymdrech i sicrhau bil treth ddwyieithog yn ystod 50au’r ganrif ddiwethaf yn ardal Llanelli. Aberth o bwys mawr yn hanes brwydr yr iaith oedd ei phenderfyniad i wrthod talu’r arian dyledus tan i’r ffurflen gael ei chyfieithu, a hanes ei brwydr hir a llafurus sydd dan sylw yng nghynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, Dyled Eileen.

Tri phrif gymeriad a geir ynddi a heb os, rhaid canmol perfformiad egnïol bob un ohonynt, yn ogystal â rhyngweithio’r tri â’i gilydd trwy gydol y ddrama. Rhian Morgan sy’n chwarae rhan yr Eileen oedrannus sy’n edrych yn ôl ar ei bywyd, weithiau’n crwydro’n mud o amgylch y set ac adegau eraill yn cyfarch y gynulleidfa neu yn sgwrsio  â’i ffurf iau a chwaraeir gan Caryl Morgan, a Ceri Murphy sy’n chwarae rhan y Trefor ifainc. I mi, perfformiad Ceri Murphy a hoeliodd fy sylw yn bennaf oherwydd ei amseru comig perffaith, ei ryngweithio â’r gynulleidfa a’i afael gadarn ar dafodiaith yr ardal. Yn wir, roedd gafael y tri ar dafodiaith Sir Gâr yn dda iawn, a chefais fy swyno gan eirfa gyfoethog a deialog naturiol a hardd y sgript.

dyled-eileen-caryl-morgan-a-ceri-phillips

(Llun gan Keith Morris)

Eto i gyd, gwelwyd un actor arall ar y llwyfan sef Gareth Wyn Roberts, ac fe sy’n chwarae rhan y beilïaid. Cymeriad hollol fud, dienaid, heb unrhyw bersonoliaeth yw’r rhan hon, ac er i hyn fy nharo yn chwithig yn gyntaf daeth i’r amlwg mai trwy ei bortreadu yn y fath modd y cafodd y gynulleidfa flas ar y chwithdod a’r dieithrwch a deimla’r Beasleys wrth i Gymro Cymraeg cymryd eu dodrefn a’u heiddo o’u cartref. Hefyd, roedd hyn yn fodd effeithiol o sicrhau mae’r hyn y mae’r beilïaid yn ei gynrychioli sydd yn ennyn ein dicter ac nid yr unigolyn a orfodwyd i ymgymryd â’r dasg fel rhan o’i swydd. Yn naturiol felly, fe oedd yn gyfrifol am symud dodrefn y Beasleys yn llythrennol oddi ar y llwyfan, ac wrth i’r dodrefn diflannu yn araf bach cefais fy nharo gan ddewrder y Beasleys a’u penderfyniad i lynu at egwyddor er gwaetha’r pris.

Er mai olrhain hanes ei safiad a’r effaith a gafodd arni hi a’i theulu a wna Dyled Eileen yn bennaf (gwelyau, bord a phedair cadair oedd yr unig ddodrefn yng nghartref y Beasleys am flynyddoedd) , un o gryfderau’r cynhyrchiad hwn yw’r ffaith iddo roi sylw i fagwraeth a chyraeddiadau eraill Eileen, yn ogystal â stori garu hi a Trefor. Yn wir, roedd ymateb gariadus Trefor wrth glywed bod Eileen wedi ei hethol yn aelod o gyngor sir Llanelli, yr union gyngor a’i herlidiodd, yn un o’m hoff olygfeydd yn y cynhyrchiad. Roedd hi’n anodd peidio ag uniaethu â’r balchder, â’r rhyddhad â’r cyffro y teimla Trefor wrth glywed am ei llwyddiant.

Cryfder arall oedd y modd y llwyddodd y ddrama i osod y brotest yn eu cyd-destun ehangach yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Defnyddiwyd ffilm a sain yn effeithiol at y diben hwn. Gwrandawyd ar farddoniaeth enwog R.S Thomas ‘Reservoirs’, cafwyd cyfeiriad at brotest Waldo Williams a cheir clipiau gweledol o drigolion Capel Celyn yn gorymdeithio trwy Lerpwl a chlip o brotest mudiad hawliau sifil America a geiriau o araith Martin Luther King. Awgryma hyn fod gweithredoedd cenedlaetholwyr Cymru yn rhan o ymgyrch rhyngwladol mwy oedd ar ei hanterth yn y cyfnod yma. Roedd y defnydd o ffilm a sain, yn ogystal â’r set syml a’r wal wen a ddefnyddiwyd i greu lleoliad penodol, yn ychwanegu at lwyddiant cynhyrchiad slic oedd yn llwyddo i gyflwyno naws a bwrlwm y cyfnod yn drawiadol.

Er mai drama wleidyddol yw hon yn y bôn, mae hi hefyd yn ymdrin â themâu oesol megis cariad, teulu a’r awydd i amddiffyn hunaniaeth yn wyneb bygythiad pwerus a dominydol, a chredaf felly fod y Theatr Genedlaethol yn llwyddo i ddangos perthnasedd yr hanes inni heddiw.

Mwynheais y cynhyrchiad yn fawr, a braf yw gweld hi’n ymweld â chymaint o theatrau a lleoliadau ar draws Cymru benbaladr.

Ceir gwybodaeth am weddill y daith trwy ddilyn y ddolen isod. 

http://www.theatr.com/en/shows/dyled-eileen.aspx

Posted in Theatr/ Theatre, Uncategorized | Tagged , , , | 1 Comment

Y Bont. Theatr Genedlaethol Cymru

Roedd awyrgylch trydanol yn llenwi cyntedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar brynhawn Sul cyn dechrau perfformiad unigryw Theatr Genedlaethol Cymru o’r Bont. Ac nid yw’n syndod ychwaith ; roedd 500 ohonom yn aros yn eiddgar i’r hyn a ddisgrifiwyd cynt fel perfformiad a fyddai’n ‘plethu theatr byw gyda ffilm, technoleg ddigidol, a chyfryngau cymdeithasol i greu un digwyddiad bythgofiadwy’. * Heb os, roeddem yn aros i fod yn rhan o berfformiad a fyddai’n garreg filltir bwysig yn hanes y Theatr Cymraeg yng Nghymru, ac o’m rhan fi fy hun, ni chefais fy siomi.

Protest cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, hanner can mlynedd ynghynt, ar bont Trefechan a ysgogodd y ddrama a cheisio ail greu digwyddiadau’r diwrnod pwysig hwnnw a’i phlethu â’r presennol oedd amcan uchelgeisiol y perfformiad. Ar ôl cael ein tywys i ganol y dre ar fysiau o gyfnod y 60au cerddon yn un dorf fawr i wylio’r myfyrwyr ifainc yn gosod posteri y tu allan i Swyddfa Bost Aberystwyth yn hawlio statws swyddogol i’r Gymraeg.

swyddfa bost

Aethom o’r fan honno i gaffis gwahanol y dre i fwyta pice ar y maen ac i yfed te o gwpanau a soseri, (rhaid canmol pwy bynnag penderfynodd defnyddio soseri a chwpanau)! Er i ni gael eistedd a chynhesu mewn caffis nid toriad hanner amser oedd hwn, serch hynny, oherwydd i’r perfformiad parhau ar ffurf fideo wrth inni wylio protestwyr 1963 yn hel atgofion am y brotest wreiddiol. Roedd defnyddio geiriau’r protestwyr gwreiddiol, nid yn unig yn wers hanes diddorol ac addysgiadol i’r gynulleidfa, ond yn dechneg effeithiol i gynnal momentwm y presennol. Llwyddodd ei geiriau nhw, ochr yn ochr â deialog yr actorion oedd i glywed yn uchel yn y caffi creu ymdeimlad o gyffro wrth inni sylwi ein bod yn agosáu at uchafbwynt y perfformiad ; cerdded at y Bont.

Dyma oedd fy hoff ran i o’r ddrama. Yn ffodus, llwyddais i gyrraedd blaen y dorf ac roedd troi o amgylch a gweld 500 o bobl yn dilyn ôl traed y protestwyr gwreiddiol mewn tawelwch wrth wrando ar ddeialog y ddrama yn datblygu trwy eu clustffonau, yn olygfa hynod o bwerus a thrawiadol.

cerdded at y bont

Ar y bont perfformiwyd golygfa olaf Kye a Dwynwen. Cychwynnodd stori Kye, cerddor o Ferthyr a Dwynwen myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Caerdydd a chyflwynydd teledu rhaglen ddogfen am hanes pont Trefechan, ar ddechrau’r perfformiad yng Nghanolfan y Celfyddydau wrth inni wylio fideo o hanes y ddau yn cwrdd, yn symud mewn gyda’i gilydd, ac yna yn gwahanu oherwydd, yn bennaf, agweddau gwahanol y ddau at y Gymraeg. Ochr yn ochr â hanes protest 1963 dilynwn stori garu’r ddau wrth i’w hamgylchiadau dod â nhw at ei gilydd yn Aberystwyth y Sul hwnnw am y tro cyntaf ers iddynt wahanu. Roeddwn i wir yn hoff o’r modd y llwyddodd stori Kye a Dwynwen cael ei gwau o amgylch y gynulleidfa a hanes y brotest, a rhaid canmol yn bennaf perfformiad yr actor a oedd yn chwarae rhan Kye.

kye a dwynwen

Er hyn, credaf y byddai’r ddrama gyfan ar ei hennill petai fwy o ddyfnder yn y ddeialog rhwng y ddau gymeriad. Byddai clywed mwy am hanes Kye wedi cryfhau’r stori, yn yr un modd y byddai cael gwybod mwy am benderfyniad Dwynwen i adael ei swydd yn ychwanegu at uchafbwynt diweddglo’r ddrama. Ai penderfyniad gwleidyddol oedd y tu ôl i’w hymddiswyddiad? Yn y sgwrs rhyngddi hi a’i chynhyrchydd yn y Cabin a welwyd ar fideo daeth i’r amlwg nad oedd ‘peidio â bod yn wleidyddol’ fel y cynghorodd ei chynhyrchydd iddi fod yn ei phlesio. Ai safiad yn erbyn ei hawl i fynegi ei barn am bwysigrwydd y brotest oedd un o’r rhesymau y tu ôl i’w phenderfyniad i roi gorau i’w swydd, neu ei chariad at Kye yn unig a’i hysgogodd? Credaf y byddai ehangu ar hanes y ddau a diwygio ychydig ar y ddeialog a geir rhyngddynt yn rhoi cyfle gwych i greu diweddglo hyd yn oed fwy pwerus i gloi’r ddrama anhygoel hon.

Yr oedd hi, heb os, yn brofiad ac yn perfformiad bendigedig ac yn dyst i’r ffaith fod y Theatr Genedlaethol Cymraeg yn fentrus ac yn weledigaethol. Gobeithio hefyd yr oedd hi’n deyrnged a oedd wrth fodd protestwyr dewr 1963.

* Gwelir erthygl ’50 Diwrnod i fynd tan Y Bont’ ar wefan Theatr Genedlaethol Cymru

 Lluniau gan Keith Morris

Posted in Theatr/ Theatre, Uncategorized | Tagged , , , , | 2 Comments

Cynnau Tân gan Rhian Staples

cynau-tan

Hawdd cynnau tan ar hen aelwyd, medd y dywediad ond yn groes i’r disgwyl nid dyma a geir yn nrama gyntaf Rhian Staples.

Enillodd Cynnau Tân y fedal ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn 2011, a hawdd gweld pam fod y sgript slic a doniol hon wedi plesio’r beirniaid.

Mae’r ddrama yn symud yn gyflym wrth inni ddilyn Sioned ac Aled sy’n cwrdd am y tro cyntaf ers ugain mlynedd a mwy ar orsaf drenau prysur. Yn groes i’r disgwyl, daw i’r amlwg nad cariad na serch na’u dymuniad i ailgynnau fflam y gorffennol yw’r rheswm dros eu cyfarfod. Yr hyn sy’n tynnu’r ddau at ei gilydd, serch hynny, yw dyhead tywyll sy’n cael ei ddatgelu’n raddol ac yn grefftus inni drwy sgript ofalus y dramodydd; mae’r ddau yn dymuno diweddu eu bywydau ac wedi dod ar draws ei gilydd ar hap wrth iddyn nhw chwilio ar-lein am bartner i gyflawni’r dasg hon gyda nhw.

Yn wir un o gryfderau’r ddrama yw’r modd mae’n llwyddo i ennyn ein chwilfrydedd wrth inni sylwi yn raddol nad yw popeth fel y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Mae popeth yn ei lle am noson o ramant ; y gwely moethus mewn gwesty crand yn y ddinas, y rhosod coch a’r champagne yn y mini fridge, ond anesmwytho sydyn a wna’r gynulleidfa wrth sylwi bod gan y ddau cynlluniau go wahanol ar gyfer y noson honno.

Rhaid canmol dawn Rhian Staples i blethu’r comedi a’r sinistr o ddechrau hyd at ddiwedd y ddrama, a’i gallu i wybod yr union adeg mae’r gynulleidfa angen seibiant o ddifrifwch yr olygfa sy’n araf ddatblygu o’u blaenau. Roedd clyfrwch y sgript a chymeriadu’r actorion yn ein gorfodi i chwerthin yn wyneb sefyllfa drychinebus y ddau gymeriad, a hynny yn ychwanegu at y teimlad o drasiedi a thristwch.

Rhaid rhoi clod i’r ddau actor Nia Roberts a Richard Elis a’r tîm cynhyrchu am lwyfannu’r ddrama mewn cwta bythefnos. Roedd portread Nia Roberts o wraig y meddwyn sy’n ei gweld hi’n anodd rhoi ei bys ar union reswm ei diflastod a’i dymuniad i farw yn hynod o lwyddiannus yn fy marn i gan iddi lwyddo fy nghythruddo ond eto ennyn fy nghydymdeimlad yn llwyr. Roedd perfformiad Richard Elis hefyd yn bwerus, ond teimlais ar adegau nad oedd y cymeriad hoffus a chwareus a welir yn y gwesty yn cyd-fynd â’r cymeriad a ddarlunnir rhwng pedwar wal ei gartref. Tybed a oedd angen datgelu ei natur dreisgar a bygythiol ychydig mwy? Er hyn, roedd yr edifar a welir ar ei wyneb yn sgil ei ffrwydrad sydyn yn erbyn Sioned yn dangos yn glir mai dyn sy’n gyflym i golli ei dymer, cyn edifarhau ar unwaith, yw Aled.

Llwyfannwyd Cynnau Tân fel rhan o gynllun RAW/AMRWD y Sherman sy’n rhoi cyfle i awduron newydd gyflwyno eu gwaith o flaen cynulleidfa, a heb os, roedd Cynnau Tân yn enghraifft wych o’r gwerth sydd mewn buddsoddi a datblygu talent newydd yng Nghymru.

Dyma oedd ymgais cyntaf Rhian Staples i ysgrifennu drama, ac rwy’n gobeithio y cawn sawl cyfle yn y dyfodol i weld mwy o’i gwaith ar lwyfan.

O ran Cynnau Tân, braf oedd gweld y Sherman yn llawn nos Sadwrn. Tybed os oes modd trefnu taith o amgylch Cymru? Yn sicr, byddai’r theatr Cymraeg yng Nghymru ar ei hennill o ganlyniad.

Posted in Theatr/ Theatre, Uncategorized | Tagged , , , , | 1 Comment