Trwy’r Ddinas Hon. Sherman Cymru

Trwy'r ddinas hon

Yn ôl yn 1979, wrth drafod celfyddyd a ysbrydolwyd gan balmenti concrid y ddinas ysgrifennodd Gwyn Erfyl, taw’r ofn ynghylch unrhyw gelfyddyd a ysbrydolwyd gan y ddinas oedd yr ‘ofn o golli dirgelwch a rhyfeddod ac unigrywiaeth’. Concrid ydi concrid, meddai ef. ‘Dydi o ddim yn gallu’i adnewyddi ei hunan. Mae’n farw.’

Yn sicr, nid oes angen imi bwysleisio yn y fan hon esblygiad a thwf celfyddyd ddinesig ers troad y ganrif, ond rhaid imi bwysleisio mai’r hyn a gafwyd yn y tair drama a berfformiwyd yr wythnos diwethaf yng nghynhyrchiad y Sherman o Trwy’r Ddinas Hon oedd tair drama lawn ‘dirgelwch a rhyfeddod ac unigrywiaeth’ a ysbrydolwyd gan ddinas Gaerdydd.

Ond er mai Caerdydd oedd y ddolen gyswllt rhwng y tair drama fer a berfformiwyd, ymdrinnir â chyfnodau a sefyllfaoedd gwahanol iawn i’w gilydd ynddynt, ond yn gefnlen iddynt oll oedd pwysigrwydd lleoliad a lle.

Drama gyntaf y noson, a leolir yn y dyfodol agos, oedd Traed Bach Concrit gan Marged Parry. Mae ‘rhyfel heddwch’ ar fin gychwyn a Fflur (Hanna Jarman) a Lowri (Siw Huws) ymhlith rhai o’r bobl ffodus sydd wedi eu ‘dewis’ i oroesi’r ailstrwythuro ac i fod yn rhan o’r byd newydd lle bu dyfodol Cymru yn well ac yn gryfach na’i phresennol.

Yn ail ddrama’r noson, Myfanwy yn y Moorlands gan Sharon Morgan, ceir bod y ffin rhwng realiti a breuddwydion ac atgofion yn denau iawn wrth i Myfanwy (Siw Hughes) menyw ganol, oed ailymweld â dinas Caerdydd am y tro cyntaf ers dechrau’r saithdegau a chwrdd â bachgen ifanc (Tom Eames) y tybir oedd ei chariad pan oedd yn iau.

Erbyn y drydedd ddrama adleolir yng Nghaerdydd 1958.Ond golwg go wahanol ar y gorffennol a geir yn Llwch o’r Pileri gan Dyfed Edwards oherwydd mae’r Natsïaid wedi trechu a Chymru newydd ennill Cwpan y Byd. Mae Llio (Hanna Jarman) a Prys (Tom Eames) dau ddisgybl ysgol wedi’u trwytho yng nghredoau ac athrawiaeth y Natsïaid, a wynebant gyfyng-gyngor wrth i’w hathrawes Miss Brumann (Siw Hughes) ceisio eu hargyhoeddi fod bywyd gwell yn aros iddynt y tu hwnt i giatiau’r ysgol.

Cafwyd perfformiadau da iawn gan y cast cyfan (er mai perfformiad Hanna Jarman fel y ferch ddiniwed, chwilfrydig yn Llwch o’r Pileri oedd y gorau yn fy nhyb i), a bu’r newidiadau effeithiol yn y set a’r goleuo yn sicrhau bod y tair drama yn cael eu cyflwyno yn annibynnol oddi wrth ei gilydd ac yn fodd o sicrhau ni ellir eu cymharu’n rhwydd.

Er hyn, ychydig yn siomedig oedd clywed yr un hen ystrydebau am ddiwylliant dinesig a diwylliant gwledig yn Myfanwy yn y Moorlands. Teimlaf ei bod hi’n hen bryd i’r gwrthdaro a’r hollt a bortreadwyd rhwng y ddau ddiwylliant gael mynegiant newydd, a siomedig ar un olwg oedd gweld yr un ystrydebau yn codi ei phen unwaith yn rhagor gan achosi imi golli diddordeb yn y ddrama ar adegau.

Codi sawl cwestiwn ynghylch brad, gelynion, heddwch, rhyfel, realiti a hunllef wnaeth Trwy’r Ddinas Hon gan sicrhau noson amrywiol a dirdynnol oedd yn bendant werth ei fynychu!

 (Gwelir sylwadau Gwyn Erfyl ac eraill yn Rhifynau 201/ 203/4 a 205 Barn)

Advertisements
This entry was posted in Uncategorized and tagged . Bookmark the permalink.

1 Response to Trwy’r Ddinas Hon. Sherman Cymru

  1. Adolygiad deallus iawn, wedi’i sgwennu’n dda. Da iawn ti. Ddim yn cytuno o ran ‘Myfanwy’ ond dyna beth sy’n braf am adolygiadau! Dal ati. Fy marn i yma… http://paulpesda.blogspot.co.uk/2013/07/drwyr-ddinas-hon.html

    o.n ffan mawr o’r diweddar annwyl Gwyn Erfyl x

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s